Menu

View in English

Saethu colomennod clai Haimwood

Mae Tir Saethu Haimwood yng nghefn gwlad digyffwrdd Canolbarth Cymru, hanner ffordd rhwng y Trallwng a Chroesoswallt, ger pentref Llandrinio. Mae'r tir wedi bod yn datblygu'n gyson ers 1971. Mae'r caban yn lle delfrydol i gyfarfod a mwynhau lluniaeth ysgafn.

Mae'r tir saethu colomennod clai ar agor bob dydd o 10.30am. Ffoniwch ni os ydych chi'n bwriadu ymweld.

Rydyn ni'n derbyn pob un o'r prif gardiau credyd.

Efallai eich bod chi eisiau dysgu saethu, neu gael gwybod sut i ymddwyn ar gyrch saethu, gloywi'ch sgiliau cyn y tymor, neu gael ambell gynnig i ymarfer. Beth bynnag rydych chi ei eisiau, mae ein tîm profiadol a chyfeillgar wrth law i wneud eich ymweliad yn ddifyr ac yn gynhyrchiol.

Rydyn ni'n alluog iawn i ddarparu ar gyfer y rheiny sy'n rhoi'r cynnig cyntaf arni ac sy'n newydd i'r gamp, yn ferched neu'n fechgyn, yn fenywod neu'n ddynion.

Mae targedau wedi'u gosod o amgylch 30 erw o barcdir. Mae ein lleoliad coediog naturiol yn ychwanegu at ein hawyrgylch digyffro ac anffurfiol. Mae'n lle delfrydol ar gyfer partïon i'r dynion neu i'r menywod cyn priodas.

Rydyn ni'n darparu'r amrywiaeth lawn o dargedau clai i'w saethu - yr holl dargedau arferol sy'n croesi'n uchel ac yn isel, targedau i gerdded tuag atyn nhw, targedau denu, corhwyaid sbonc, cwningod rhuthr ac ati.

Bydd dau dwr, ar uchder o 70tr a 40tr, yn rhoi'r saethwr adar hela ar brawf.

Gall saethwyr yn y maes grugieir weld targedau'n nesáu o 100 llath cyn pasio dros eu pennau ar gyflymder o 70mya. Mae'n rhaid rhoi cynnig ar hyn cyn tymor y grugieir!

Mae ein diwrnodau efelychu saethu adar hela'n boblogaidd iawn ac yn siwr o loywi'ch sgiliau a chael eich calon yn curo'n gyflym.

Mae pencampwyr Cenedlaethol a Sirol yn defnyddio'r tir saethu hwn yng Nghanolbarth Cymru'n rheolaidd.

Mae'r trapiau i gyd wedi'u hawtomeiddio ac maen nhw'n gweithio trwy system ‘talu a chwarae'. Mae'r system yma'n cynnwys gosodiad lle gallwch chi ddewis oedi, sy'n galluogi'r rheiny sy'n saethu ar eu pennau eu hunain i wasgu'r botwm i ryddhau eu targedau eu hunain.

Mae boreau Sadwrn a Sul yn anffurfiol ac ar gyfer aelodau'r clwb ac ymwelwyr, y mae croeso mawr iddyn nhw bob amser. Nid oes angen archebu lle ymlaen llaw. Mae yna system sgwad ar waith ar y diwrnodau yma ac mae'n rhaid cofrestru erbyn 10.15am. Os na allwch chi fod yma'n brydlon - dewch yn gynnar!